Gwasanaethau Sense yng Nghymru

Available in:

Sicrhewch y gefnogaeth sy’n iawn i chi gyda Sense: boed yn wasanaethau dydd, cefnogaeth gymunedol neu fyw gyda chymorth. Rydyn ni yma i chi, ar draws gogledd a de Cymru.

Hybiau Sense yn Ninbych a Chaerffili

Mae hybiau Sense yn ganolfannau dydd hygyrch sy’n dod â’r gymuned ynghyd. Maent yn cynnal digwyddiadau cynhwysol ar gyfer pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, i leihau unigrwydd a hybu lles.

Mae ein hybiau yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl anabl, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon.
  • Sesiynau synhwyraidd a chwarae meddal.
  • Addysgu sgiliau bywyd allweddol.
  • Cefnogaeth arbenigol i bobl sy’n ddall fyddar.

Mae dwy ganolfan Sense yng Nghymru: hyb Sense Dinbych (yn agor yn 2023) a hyb Sense Caerffili.

Man with folded arms in wheelchair looks to the side.

Caerffili, Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae hyb Sense Caerffili wedi bod wrth galon Caerffili ers 2015.
A young woman and support worker wearing a mask both raising their arms and smiling at an arts and crafts table.

Dinbych, Sir Ddinbych

Hyb Sense Dinbych yw ein canolfan newydd sbon, yn agor yn 2023 yn Sir Ddinbych.

Cefnogaeth yn eich cymuned

Lin Wallace, a Sense Living tenant, and a support worker laughing together.

Angen help i gyfathrebu, neu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd?

Mae Sense yn cynnig cymorth un-i-un i bobl gydag anableddau cymhleth ym mhob rhan o Gymru.

Mae Sense yn cefnogi pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau. Chi sydd i benderfynu sut olwg sydd ar hynny.

Efallai eich bod am chwarae bingo, sblasio o gwmpas eich pwll lleol neu fynd i weld eich meddyg teulu.

Rydym yn cefnogi ein cleientiaid gyda phethau fel:

  • Darllen eu post a gwneud galwadau ffôn.
  • Cymryd rhan mewn clybiau cymdeithasol.
  • Gweithgareddau ymarfer corff a hamdden.
  • Siopa.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth un-i-un i bobl sy’n byw mewn gofal preswyl.

Os hoffech siarad am sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch â ni.

Darllenwch fwy am gefnogaeth gymunedol gan Sense.

Byw gyda Chymorth yn Nhonypandy

Mae Byw gyda Chymorth ar gyfer pobl sydd eisiau byw’n annibynnol, ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o hyd.

Rydym yn cynnig Byw gyda Chymorth i bobl ag anableddau cymhleth yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf. Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal hon i gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Sense Cymru.

Darganfod mwy am Fyw gyda Chymorth.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â thîm Sense Cymru yng ngogledd neu dde Cymru.