{"id":8617,"date":"2022-04-21T09:37:36","date_gmt":"2022-04-21T08:37:36","guid":{"rendered":"https:\/\/www.sense.org.uk\/?page_id=8617"},"modified":"2022-05-17T15:28:55","modified_gmt":"2022-05-17T14:28:55","slug":"mesur-anableddau-cymhleth-yn-y-deyrnas-unedig%ef%bf%bc","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/mesur-anableddau-cymhleth-yn-y-deyrnas-unedig%ef%bf%bc\/","title":{"rendered":"Mesur anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"is-style-intro\">Mewn partneriaeth \u00e2&#8217;r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, rydym wedi datblygu a dyfnhau ein dealltwriaeth o raddfa anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig. Mae ein dadansoddiad yn darparu amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y presennol a&#8217;r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Sense yn bodoli i wella bywydau pobl ag anableddau cymhleth. Yn y Deyrnas Unedig, mae gwybodaeth ac ystadegau ar y gr\u0175p hwn wedi bod yn gyfyngedig \u2013 rydym yn newid hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd ein dirnadaeth yn ein galluogi i ddeall yn well anghenion a phrofiadau pobl ag anableddau ar bob cam o&#8217;u bywyd. Rydym eisiau tynnu sylw at yr anghydraddoldebau a\u2019r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, gan helpu i gefnogi eu hanghenion addysgol, iechyd a chymdeithasol fel y gallant fyw bywydau llawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Am y tro cyntaf, mae\u2019r darn hwn o ymchwil wedi helpu i amcangyfrif <strong>bod 1.6 miliwn o bobl ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw anableddau cymhleth?<\/h2>\n\n\n\n<p>At ddibenion yr ymchwil hwn, mae gan rywun anableddau cymhleth os oes ganddo ddau neu fwy o&#8217;r cyflyrau canlynol ac yn adrodd bod ei anableddau&#8217;n effeithio ar ei fywyd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"is-style-secondary-bullets wp-block-list\"><li>Colli golwg<\/li><li>Colli clyw<\/li><li>Awtistiaeth<\/li><li>Anabledd dysgu<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gall yr anghenion hyn fod gyda pherson o enedigaeth, neu yn dilyn salwch neu anaf, neu gallant ddatblygu gydag oedran. Efallai y bydd angen cymorth lefel uchel ar bobl ag anableddau cymhleth yn eu bywydau bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch gael rhagor o wybodaeth am anabledd cymhleth <a href=\"https:\/\/www.sense.org.uk\/information-and-advice\/conditions\/what-does-complex-disabilities-mean\/\">yma<\/a>, ac <a href=\"https:\/\/www.sense.org.uk\/about-us\/\">amdano\u2019r pobl&nbsp;mae Sense<\/a> yn eu cefnogi.<br><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ystadegau allweddol<\/h2>\n\n\n\n<p>Roeddem eisiau ateb i&#8217;r cwestiwn &#8216;Faint o bobl sydd ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig?\u2019 Roedd yn bwysig hefyd i ni ddeall mwy am sut olwg fydd ar anabledd cymhleth yn y dyfodol. Canfu ein hymchwil:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Canfyddiadau allweddol<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"is-style-secondary-bullets wp-block-list\"><li>Mae gan 1 o bob 10 o bobl anabl anableddau cymhleth.<\/li><li>Mae yna 1.6 miliwn o bobl ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig heddiw.<\/li><li>Rhagwelir y bydd 2 filiwn o bobl ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig erbyn 2029.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ffigurau ar gyfer anableddau cymhleth yng Nghymru<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>O&#8217;r 1.6 miliwn o bobl yr amcangyfrifir eu bod yn byw yn y Deyrnas Unedig ag anableddau cymhleth, mae tua 84,000 yng Nghymru.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae dadansoddiad yn awgrymu bod nodweddion y bobl hyn fel a ganlyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td><strong>Gr\u0175p oedran<\/strong><\/td><td><strong>Nifer o bobl<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>0-17 oed<\/strong><\/td><td>15,752<\/td><\/tr><tr><td><strong>18-64 oed<\/strong><\/td><td>35,402<\/td><\/tr><tr><td><strong>Dros 65 oed<\/strong><\/td><td>34,894<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td><strong>Rhyw<\/strong><\/td><td><strong>Nifer o bobl<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Gwrywaidd<\/strong><\/td><td>46,363<\/td><\/tr><tr><td><strong>Benywaidd<\/strong><\/td><td>39,686<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td><strong>Gr\u0175p lleiafrif ethnig<\/strong><\/td><td><strong>Nifer o bobl<\/strong><\/td><\/tr><tr><td><strong>Asiaidd<\/strong><\/td><td>954<\/td><\/tr><tr><td><strong>Du<\/strong><\/td><td>614<\/td><\/tr><tr><td><strong>Cymysg\/Arall<\/strong><\/td><td>1,039<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">O ble mae&#8217;r niferoedd hyn yn dod?<\/h3>\n\n\n\n<p>Daw\u2019r ffigurau hyn o ddadansoddiad a gwblhawyd gennym gyda\u2019r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol. Defnyddiwyd data o Arolwg Adnoddau Teuluol yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar y cyd ag amcangyfrifon hanesyddol ac amcangyfrifon y dyfodol o gyfansoddiad poblogaeth y Deyrnas Unedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Darllenwch grynodeb o&#8217;n methodoleg mesur anableddau cymhleth.<\/p>\n\n\n\n  <div class=\"wp-block  box    is-style-textured-grey-tint-10\">    <div class=\"acf-innerblocks-container\">\n\n<p>Cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:policy.research@sense.org.uk\">policy.research@sense.org.uk<\/a> os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael data lleol ar gyfer eich ardal.<\/p>\n\n<\/div>\n  <\/div>\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut y gwnaethom fesur anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"is-style-intro\">Gweithiodd Sense gyda&#8217;r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol i amcangyfrif faint o bobl ag anableddau cymhleth sy&#8217;n byw yn y Deyrnas Unedig. Darparodd ein hastudiaeth hefyd fewnwelediadau rhanbarthol a demograffig, yn ogystal ag amcanestyniad o anabledd cymhleth yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r amcangyfrifon hyn wedi\u2019u datblygu gan ddefnyddio\u2019r data a gasglwyd yn Arolwg Adnoddau Teuluol (FRS) blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau o 2012\/13 i 2019\/20. Mae&#8217;r FRS yn ffynhonnell ddata flaenllaw ar anabledd yn y Deyrnas Unedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr arolygon hyn, cesglir data ar bob aelod o bob cartref a samplwyd. Gofynnir i ymatebwyr y GTA ddarparu gwybodaeth am eu hamgylchiadau ariannol, trefniadau byw a&#8217;u hiechyd. Mae&#8217;r olaf yn cyffwrdd ag iechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys salwch hirdymor a chyflyrau iechyd a&#8217;r effaith a gaiff y rhain ar fywydau pobl.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyplyswyd yr wybodaeth a gasglwyd yn yr arolygon hyn ag amcangyfrifon swyddogol o boblogaeth y Deyrnas Unedig, gan ein galluogi i nodi nifer y bobl sy&#8217;n byw ag anableddau cymhleth a&#8217;u proffiliau demograffig.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaed amcangyfrif niferoedd poblogaeth ar gyfer is-grwpiau llai, ardaloedd daearyddol a rhagamcanion ar gyfer y dyfodol gyda dull modelu. Ar gyfer y cyfrifiadau hyn, defnyddiwyd data a gasglwyd gennym mewn tonnau blaenorol o\u2019r FRS, yn ogystal \u00e2 gwybodaeth am gyfansoddiad poblogaeth y Deyrnas Unedig yn hanesyddol ac yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig nodi bod ein hamcangyfrifon ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan niferoedd bach o bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gwahanol. Mae\u2019r modelu a\u2019r data a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y ffigurau hyn yn golygu nad ydynt bob amser yn dod i\u2019r un cyfanswm, a dylid eu dehongli\u2019n ofalus, yn enwedig mewn ardaloedd daearyddol llai.<\/p>\n\n\n\n  <div class=\"wp-block  box    is-style-textured-grey-tint-10\">    <div class=\"acf-innerblocks-container\">\n\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg a ddefnyddiwyd, e-bostiwch <a href=\"mailto:policy.research@sense.org.uk\">policy.research@sense.org.uk<\/a><\/p>\n\n<\/div>\n  <\/div>\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mesur anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig<\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_searchwp_excluded":"","footnotes":""},"content_label":[],"class_list":["post-8617","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8617","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8617"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8617\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8617"}],"wp:term":[{"taxonomy":"content_label","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/content_label?post=8617"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}