{"id":7380,"date":"2022-04-05T15:18:35","date_gmt":"2022-04-05T14:18:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.sense.org.uk\/hubs\/sense-de-cymru\/"},"modified":"2025-03-10T11:17:21","modified_gmt":"2025-03-10T11:17:21","slug":"sense-caerffili","status":"publish","type":"hub","link":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/our-services\/centres\/sense-cymru\/sense-caerffili\/","title":{"rendered":"Caerffili, Bwrdeistref Sirol Caerffili"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae ein hyb Sense Caerffili wedi bod wrth galon Caerffili ers 2015. Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau cymhleth ledled de Cymru i ddysgu sgiliau newydd, cadw&#8217;n iach a gwneud ffrindiau.<\/p>\n\n\n\n<p>P&#8217;un a ydych yn dod o Gaerffili neu rywle arall yn ne Cymru, byddem wrth ein bodd yn eich gweld!<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a><\/a><strong>Gwasanaethau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein gwasanaethau dydd yn cynnwys amrywiaeth enfawr o weithgareddau. Mae&#8217;r ffocws bob amser ar eich helpu i feithrin sgiliau newydd, hyder a chyfathrebu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enghreifftiau yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"is-style-secondary-bullets wp-block-list\"><li>Creu ac arddangos celf a chrefft.<\/li><li>Perfformiadau cerddorol a theatrig.<\/li><li>Ffitrwydd.<\/li><li>Dosbarthiadau sgiliau coginio a mwynhau bwyd.<\/li><li>Defnyddio cyfrifiaduron ar gyfer dysgu a hwyl.<\/li><li>Profiadau synhwyraidd trwy gerddoriaeth a chyffyrddiad.<\/li><li>Profiadau maldod.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r gwasanaethau sydd ar gael yn ein hyb yng Nghaerffili, rydym yn trefnu teithiau o&#8217;r hyb i&#8217;r gymuned leol. Gallai hyn olygu mynd i&#8217;r pwll nofio, siopau neu barciau.<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau rydym hefyd yn trefnu teithiau ychydig ymhellach i ffwrdd, i leoedd fel ffermydd neu ganolfannau gweithgareddau. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl ag anableddau cymhleth gael profiadau newydd cyffrous, tra gall eu gofalwyr hefyd gael seibiant byr.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/places\/sense-cymru\/gwasanaethau-sense-yng-nghymru\/\">Darganfod mwy am wasanaethau Sense ar draws gogledd a de Cymru.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a><\/a><strong>Beth sydd yn yr adeilad?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein hyb Sense yng Nghaerffili wedi&#8217;i gynllunio i fod yn fan lle gall pawb ddysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau gr\u0175p.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yno:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"is-style-primary-bullets wp-block-list\"><li>Ardaloedd amlbwrpas lle rydym yn cynnal digwyddiadau a gemau, gyda byrddau gwyn electronig a digon o le i symud o gwmpas.<\/li><li>Ardal lolfa, sy&#8217;n noddfa dawel ar gyfer amser unigol neu weithgareddau gr\u0175p ymlaciol.<\/li><li>Dwy ystafell synhwyraidd fawr.<\/li><li>Cegin addysgu gwbl hygyrch gyda hobiau coginio anwytho, sinc golchi llestri ac arwynebau y gellir eu codi a&#8217;u gostwng i gyd.<\/li><li>Tair ystafell weithgareddau fawr.<\/li><li>Ystafelloedd cyfarfod.<\/li><li>Offer chwarae meddal.<\/li><li>Dwy ystafell ymolchi gwbl hygyrch.<\/li><li>Gardd synhwyraidd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a><\/a><strong>Gwybodaeth i ymwelwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein hyb yng Nghaerffili yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae gennym doiledau ac ystafelloedd newid cwbl hygyrch gyda system teclyn codi tracio, teclyn codi symudol, a digon o le i chi a dau aelod o staff.<\/p>\n\n\n\n  <div class=\"wp-block  box  ctaBox    is-style-textured-grey-tint-10  size-large\">\n    <div class=\"ctaBox__row\">\n      <div class=\"ctaBox__content\">\n        <div class=\"acf-innerblocks-container\">\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymwelwch \u00e2 ni yng Nghaerffili<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Os yr hoffech gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, cysylltwch.<\/p>\n\n<\/div>\n      <\/div>\n\n      <div class=\"ctaBox__cta\">\n        <a href=\"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/sense-cymru-wales\/cysylltwch-a-sense-cymru\/\" class=\"button  button--primary\">Cysylltwch \u00e2 Sense Cymru<\/a>\n      <\/div>\n    <\/div>\n\n  <\/div>\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae hyb Sense Caerffili wedi bod wrth galon Caerffili ers 2015.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"parent":8511,"menu_order":0,"template":"","class_list":["post-7380","hub","type-hub","status-publish","hentry"],"acf":{"geolocation":{"address":"Caerphilly CF83 3ED, UK","lat":51.5715959,"lng":-3.2053471,"zoom":14,"place_id":"ChIJ7bGjWEsZbkgR49TLveKQeNI","name":"CF83 3ED","city":"Caerphilly","state":"Wales","state_short":"Caerphilly","post_code":"CF83 3ED","country":"United Kingdom","country_short":"GB"},"display_address":"Parc Busnes Caerffili,\r\nHeol y Fan,\r\nCaerffili\r\nCF83 3ED\r\nDe Cymru","short_location_description":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/hub\/7380","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/hub"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/hub"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/hub\/7380\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/hub\/8511"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.sense.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7380"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}